Deintyddfa
Dewi Sant
Sut i gysylltu Gyda Ni
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy restr aros ganolog y GIG a ddarparwyd i ni trwy'r Bwrdd Iechyd Lleol. Os hoffech chi roi eich enw ar y rhestr hon, ffoniwch y rhif canlynol –
0300 3038322 a dewis rhif 4
Mewn argyfwng cysylltwch a 111
01267 616658
Oriau Agor
Dydd Llun
9-1 a 2-5
Dydd Mawrth
9-1 a 2-5
Dydd Mercher
9-1 a 2-5
Dydd Iau
9-1 a 2-5
Dydd Gwener
9-1 a 2-5
Croeso i Deintyddfa Dewi Sant
Practis teuluol ydym ni sy'n darparu gofal deintyddol gwych yng Nghaerfyrddin. Rydym wedi'n lleoli ym Mharc Dewi Sant. Rydym yn falch iawn o fod wedi meithrin sylfaen cleifion ffyddlon o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, ac yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol.
Ein Gwasanaethau
Mae Deintyddfa Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth o driniaethau o archwiliadau deintyddol rheolaidd a glanhau proffesiynol i'r teulu cyfan, hyd at weithdrefnau deintyddiaeth gosmetig modern i wella'ch gwên.
Archwyliadau Deintyddol
Gwaith Cosmetic
Triniaeth Brys
Pam dewis ein Gwasanaethau Ni
Tîm Proffesiynol
Bydd ein tîm medrus yn eich helpu
Triniaeth Brys
Ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau cyffredin, ffoniwch 111. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma 111.wales.nhs.uk
Bydd Apwyntiadau Brys Preifat hefyd ar gael i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru gyda'r Practis o ddechrau 2026. Cost apwyntiad brys preifat yw £120 sy'n cynnwys triniaeth frys ar un dant yn ogystal â'r pelydrau-x angenrheidiol.
Amdanom Ni
Will Howell
Mari Kirk
Allison Walker
Bethan Faulkner
Cwestiynau Cyffredin
Galwch
01267 616658
neu galwch heibio i'r practis, a byddwn yn trefnu apwyntiad sy'n gyfleus i chi. Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy neges destun neu e-bost cyn eich apwyntiad. Os oes angen i chi ganslo neu newid apwyntiad, rhowch gymaint o rybudd â phosibl i ni, o leiaf 24 awr.
Mae lefel yr ymbelydredd o beledr X yn isel iawn mewn deintyddfa
Mae llawer o bobol yn ceisio ymuno a deintydd GIG yn yr ardal. Os ydych yn methu dau apwyntiad heb adael i ni wybod, ni fyddwn yn cynnig apwyntiad arall i chi. Rydym yn gobeithio yn fawr bydd hwn ddim yn digwydd.